A group of learners from Cardiff went to join learners from all over Wales for a weekend in Nant Gwrtheyrn between 1 – 3 April 2011.
The learners really enjoyed themselves. They went for a walk on the beautiful beach on a trip to Beddgelert and to Hedd Wyn’s home, The Ysgwrn, in Trawsfynydd where they met the renowned bard’s nephew – Gerald Williams.
They joined in the fun of the North Wales learners Eisteddfod on the Saturday night and James Dowden from Cardiff won the Solo competition! Other learners from Cardiff also took part in the recital and singing group competitions.
We also had the honour of being in the company of Dafydd Iwan on the Sunday morning. He gave a lovely service and sang some classic songs such as Mae’n Wlad i Mi and Yma o Hyd.
Gwenllian Willis,Cardiff and the Vale of Glamorgan Informal Learning Officer said: “It’s important that learners hear the Welsh language as it’s spoken naturally, that they have the chance to speak the language, to learn more about Wales and to enjoy whilst doing all of these things. This is exactly what happened in Nant Gwrtheyrn. It was a great opportunity for them and they’ve all benefited greatly from it”.
Every Welsh for Adults Centre’s eager to organise another trip like this next year because it was such a success. Also, the Welsh for Adults Centre Cardiff and the Vale are organising a Residential Course for learners in Mulberry House, Abergavenny between 6 -8 May. For more details please contact Gwenllian Willis on 029 20 879 319 neu willisg1@caerdydd.ac.uk
Hwyl a Haul yn Nant Gwrtheyrn
Aeth grŵp o ddysgwyr o Gaerdydd i ymuno â dysgwyr o dros Gymru gyfan am benwythnos arbennig yn Nant Gwrtheyrn rhwng 1 – 3 Ebrill 2011.
Mwynheuodd y dysgwyr mas draw wrth fynd am dro lawr i’r traeth prydferth, ar daith i Feddgelert ac i gartref Hedd Wyn, yr Ysgwrn, yn Nhrawsfynydd lle cwrddon nhw â nai y bardd adnabyddus – Gerald Williams.
Ymunon nhw yn hwyl Eisteddfod Dysgwyr y Gogledd ar y nos Sadwrn ac enillodd James Dowden o Gaerdydd y gystadleuaeth Unawd! Cymerodd dysgwyr eraill Caerdydd rhan yn y gystadleuaeth llefaru a’r grŵp canu hefyd.
Cafon hefyd y fraint o fod yng nghwmni Dafydd Iwan ar y bore dydd Sul wrth iddo roi gwasanaeth iddynt a chanu caneuon yn cynnwys yr hen glasuron Mae’n Wlad i Mi ac Yma o Hyd.
Dywedodd Gwenllian Willis, Swyddog Dysgu Anffurfiol Caerdydd a Bro Morgannwg: “Mae’n bwysig bod dysgwyr yn clywed yr iath Gymraeg yn naturiol, yn cael cyfle i ddefnyddio’r iaith, i ddysgu am Gymru ac i fwynhau yn fawr wrth wneud hyn. Dyna’n union beth ddigwyddodd yn Nant Gwrtheyrn. Roedd yn gyfle arbennig ac maent i gyd wedi elwa’n fawr ohono”.
Mae pob Canolfan Cymraeg i Oedolion yn awyddus iawn i drefnu taith arall o’r fath y flwyddyn nesaf ar ôl y daith lwyddiannus hon. Hefyd, mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg yn trefnu Cwrs Preswyl arall rhwng 6 a 8 Mai. Am ragor o fanylion cysylltwch â Gwenllian Willis ar 029 20 879 318 neu willisg1@caerdydd.ac.uk
