£6m for sabbaticals to learn Welsh
Education Minister Leighton Andrews has approved a multi-million-pound scheme to improve standards in Welsh-medium teaching and learning.
The £6m Welsh Language Sabbatical scheme enables practitioners to be released by their employees to attend training courses to develop their Welsh-language skills.
It is hoped that the scheme will increase the supply of practitioners able to reach and train through the medium of Welsh in statutory and post-16 education.
A pilot was initially launched in 2005 and the latest round of funding will allow the programme to be rolled out to further locations, with a range of courses at different levels and new models of learning, benefitting an extra 648 people.
Mr Andrews said: We have committed to building a work force with a sufficient number of high quality practitioners’
The funding will provide language training at all levels. The Cardiff and the Vale of Glamorgan Welsh for Adults Centre will help improve the Welsh language skills of practitioners over 4 weeks during the summer.
Llywodraeth Cymru i gynorthwyo athrawon wella'u sgiliau iaith hyd at safon addysgu.
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, wedi cymeradwyo mwy na £6 miliwn dros gyfnod o dair blynedd ar gyfer cyflwyno Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg, gyda'r nod o wella safonau addysgu a dysgu mewn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd undeb athrawon UCAC eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad, gan ddweud bod nifer o aelodau'r undeb wedi manteisio ar y cynllun peilot a gyflwynwyd yn 2005.
Yn ôl Bwrdd yr Iaith, mae'r cyhoeddiad yn cryfhau neges y Bwrdd am bwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle.
Gwella sgiliau
"Mae'r Llywodraeth yn amlwg yn cymryd y Strategaeth Addysg Gymraeg o ddifrif ac yn parhau gyda pholisi'r llywodraeth ddiwethaf," meddai Rebecca Williams, swyddog polisi UCAC.
"Rydym ni wedi gweld aelodau'n manteisio ar y cynllun peilot ac yn cael budd mawr yn cynyddu eu hyder i allu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac i ehangu eu cyfleon cyflogaeth."
Mantais y cynllun yw ei fod yn rhoi cyfle i siaradwyr Cymraeg i loywi safon eu hiaith, a hefyd i athrawon prin eu Cymraeg gynyddu eu sgiliau iaith, meddai Ms Williams.
"Mae'n golygu bod modd ehangu ar nifer y cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau (galwedigaethol) sydd wedi bod yn brin. "Mae'n fuddsoddiad yn y gweithlu - rydym ni'n pwyso ar ysgolion i sicrhau bod staff yn manteisio ar y cyfle."
Lefelau gwahanol
Bydd y cyllid yn talu am gyrsiau iaith dwys i athrawon, a hefyd yn talu am athrawon cyflenwi i addysgwyr - athrawon, cynorthwywyr dosbarth a darlithwyr - mewn ysgolion a cholegau addysg bellach.
Bydd yr arian newydd yn sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflwyno i fwy o leoliadau nag yn 2005 ac yn cynnig cyrsiau ar nifer o lefelau gwahanol.
Bydd 648 o addysgwyr ychwanegol ar eu hennill o'r cynllun.
Dywedodd Llefarydd ar ran Bwrdd yr Iaith eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad.
"Gyda chynnydd blynyddol yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg mae'n allweddol fod y Llywodraeth yn buddsoddi mewn rhaglenni hyfforddiant er mwyn sicrhau ymarferwyr cymwys a hyfedr i weithredu amcanion y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg," meddai.
"Yn ogystal, mae'r cyhoeddiad yn atgyfnerthu neges y Bwrdd ynglŷn â'r angen am sgiliau dwyieithog yn byd gwaith yng Nghymru heddiw."
Dywedodd Mr Andrews: "Drwy'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sydd â digon o ymarferwyr o ansawdd da, sy'n meddu ar sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer pob cyfnod addysg a hyfforddiant.
"Mae'r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg yn cefnogi'r nod hwn yn llwyr a bydd yr arian a gyhoeddwyd gennyf, sef £6 miliwn dros y tair blynedd nesaf, yn galluogi mwy o ymarferwyr i gael y cyfle i ddatblygu'u sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer addysgu ar bob lefel."
