Kay Holder wedi ei enwi fel Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam!
Neithiwr fe gipiodd Kay Holder o Ddinas Powys wobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011.
Roedd tri arall ar y rhestr fer eleni, Cat Dafydd, Neil Wyn Jones a Sarah Roberts, ond penderfynodd y beirniaid, Dafydd Griffiths, Helen Prosser a Dyfed Thomas mai Kay Holder ddaeth i'r brig.
Roedd 21 o bobl wedi cystadlu am y fraint o ennill y wobr, gyda cheisiadau o bob cwr o Gymru a thu hwnt.
Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, wedi'r seremoni yn Neuadd Goffa Wrecsam: "Roedd safon y cystadlu eleni'n uchel iawn, ac mae'n amlwg bod Kay wedi gwneud argraff arbennig ar y beirniaid i ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn eleni.
Mae Kay wedi bod yn dysgu Cymraeg ar lefel hyfedredd gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg eleni. Yn wreiddiol o Benarth, mae Kay'n parhau i fyw ym Mro Morgannwg yn Ninas Powys. Mae Kay yn gweithio fel tiwtor preifat Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008, ac mae'n rhan o'r trefniadau ar gyfer yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg y flwyddyn nesaf.
Dywed Kay: "es i'r i ddarganfod iaith, byd a diwylliant newydd. Dechreuais i ddysgu'r delyn ar Faes yr Eisteddfod yng Nghaerdydd hefyd, ac erbyn hyn rydw i wedi sefyll arholiad Gradd 3. Felly, newidiodd yr Eisteddfod a'r iaith fy mywyd!"
Dechreuodd Kay ddysgu Cymraeg drwy lyfrau wrth fyw yn Lloegr, ac yna symudodd yn ôl i Gymru ac mae'n mynychu dosbarthiadau Gloywi a Siawns am Sgwrs 4 gyda Canolfan Cymraeg Caerdydd a Bro Morgannwg ers mis Hydref.
Llongyfarchiadau mawr i Kay!
Kay Holder named Learner of the Year at the National Eisteddfod in Wrexham!
Last night Kay Holder from Dinas Powys was awarded the 2011 Learner of the Year in the National Eisteddfod in Wrexham.
The Welsh Learner of the Year competition is open to any adult who has learned Welsh. The finalists are chosen by a panel of judges and during the Eisteddfod week, they take part in a question and answer session at Maes D before going on to the final round of the competition.
There were another three on the short list this year, Cat Dafydd from Caerphilly, Neil Wyn Jones from West Kirby and Sarah Roberts from Bangor.
Twenty one people applied this year, and adjudicators had a tough time whittling it down to the final four.
Kay Holder has been learning Welsh at proficiency level with the Cardiff and Vale of Glamorgan Welsh for Adults Centre this year. Kay Holder is a real linguist and works as a private tutor in Spanish, French and German. Originally from Penarth, Kay lives in Dinas Powys. She started learning Welsh at the Cardiff and District National Eisteddfod in 2008, and the festival had a great effect on her, as she is now part of the preparations for the 2012 Eisteddfod in the Vale of Glamorgan.
Kay said, “I’m a vegan and I attended the Eisteddfod to promote veganism, and discovered a new language, culture and world. I also started learning the harp at the Eisteddfod in Cardiff and have already completed the Grade 3 exam. So the Eisteddfod changed my life!”
Kay started learning Welsh through books when living in England, and after returning to Wales she has been attending refresher courses and Siawns am Sgwrs 4 since October.
Congratulations to Kay!