The School’s Eisteddfod Successes17/08/2011
There can’t be many couples who have, between them, won the National Eisteddfod Chair, Crown and Prose Medal. But that’s the claim Cardiff husband and wife T James Jones and Manon Rhys can now make.
T James (or ‘Jim’) Jones, an Associate Lecturer at the School of Welsh, made Eisteddfod history four years ago when he added the Bardic Chair to the two Bardic Crowns he won in 1986 and1988.
Now his wife Manon, a former lecturer at the School,, has added to the family trophy collection by winning the Prose Medal at this year’s Eisteddfod in Wrexham. Just to keep it in the family, Jim, the present Archdruid of Wales, presented her with the Medal.
School of Welsh graduate Rhys Iorwerth followed in Jim’s footsteps as this year’s winner of the Bardic Chair. Rhys Iorwerth won the Chair for his series of nine poems telling a modern urban love story, written in the strict cynghanedd metre form. The series traces the story from its beginnings, through separation, to a possible rekindling. Rhys, who has a BA and an MA from the School of Welsh and now works in the National Assembly’s Research Service, was praised by the judges for "his emotional subtlety, conveyed in brilliant instinctive cynghanedd which crackles and lights up the sky like fireworks."
Other Cardiff successes included Llŷr Gwyn Lewis, a Cardiff graduate now studying for a PhD in Cardiff’s School of Welsh and the School of English, Communication and Philosophy, who won the Emyr Feddyg Scholarship awarded to an author whose work has not been published hitherto: the £1,000 scholarship will pay for tutoring to help Llŷr complete his first novel.. Llŷr also won the first prize for a poem in vers libre.
The Aberhafren team won the final round of Talwrn y Beirdd, the poetry competition broadcast on Radio Cymru. The team includes Llion Pryderi Roberts, the Creative Writing tutor at the School of Welsh, and Ifan Pleming and Rhys Iorwerth, both former students of the School. The final round against the Taeogion team (which includes Emyr Davies, Ceri Wyn Jones and Tudur Dylan Jones) was recorded in the Literary Pavilion. It was an exciting and close fought competition with Aberhafren winning by half a mark!
The 2011 Learner of the Year Prize went to Kay Holder, a student at the School of Welsh’s Cardiff and Vale of Glamorgan Welsh for Adults Centre. Originally from Penarth, Kay now lives in Dinas Powys. Her interest in Welsh language and culture was sparked at the 2008 Eisteddfod, held in Cardiff.
Professor Sioned Davies, Head of the School of Welsh, said: "We are all delighted with the School’s success at this year’s Eisteddfod. Creative writing, taught at both undergraduate and postgraduate levels, is an acknowledged strength within the School, while the Learner of the Year Award reflects the excellent work being undertaken by our Welsh for Adults Centre. We have certainly set the bar high for next year’s National Eisteddfod which will be held locally, in the Vale of Glamorgan."
Llwyddiant i’r Ysgol yn yr Eisteddfod 17/08/2011
Go brin fod llawer o barau wedi ennill Cadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod rhyngddynt. Fodd bynnag, mae T James Jones a’i wraig Manon Rhys o Gaerdydd yn un ohonynt.
Mae T James (neu ‘Jim’) Jones yn Ddarlithydd Cyswllt yn Ysgol y Gymraeg ac fe greodd hanes yn yr Eisteddfod bedair blynedd yn ôl pan ychwanegodd y Gadair at y ddwy Goron a enillodd ym 1986 a 1988.
Erbyn hyn, mae ei wraig Manon, sy’n gyn ddarlithydd yn yr Ysgol, wedi ychwanegu at restr dlysau’r teulu drwy ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod eleni yn Wrecsam. Er mwyn ei wneud yn achlysur teuluol, Jim, sef Archdderwydd Cymru, a gyflwynodd y Fedal iddi.
Ar ben hynny, efelychodd un o raddedigion yr Ysgol, Rhys Iorwerth, gamp Jim drwy ennill y Gadair eleni. Enillodd Rhys Iorwerth y Gadair am ei gyfres o naw cerdd sy’n adrodd stori garu fodern a dinesig ar ffurf cynghanedd gaeth. Enillodd Rhys raddau BA ac MA yn Ysgol y Gymraeg ac mae’n gweithio yng Ngwasanaeth Ymchwil y Cynulliad erbyn hyn.
Mae llwyddiannau eraill Caerdydd yn cynnwys Llŷr Gwyn Lewis, a raddiodd yng Nghaerdydd ac sydd bellach yn astudio ar gyfer PhD yn Ysgol y Gymraeg Caerdydd a’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth. Enillodd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg - sy’n cael ei roi i awdur sydd heb gyhoeddi ei waith eto: bydd yr ysgoloriaeth £1,000 yn talu am diwtora er mwyn cynorthwyo Llŷr i gyflawni ei nofel gyntaf. Enillodd Llŷr hefyd y wobr gyntaf am gerdd mewn vers libre.
Enillodd tîm Aberhafren rownd derfynol y Talwrn, yr ornest farddol a ddarlledir ar Radio Cymru. Mae tîm Aberhafren yn cynnwys Llion Pryderi Roberts sy’n diwtor Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymareg, ynghyd ag Ifan Pleming a’r Prifardd Rhys Iorwerth, ill dau’n gyn-fyfyrwyr yr Ysgol. Recordiwyd y rownd derfynol yn erbyn tîm y Taeogion (sy’n cynnwys Emyr Davies, Y Prifardd Ceri Wyn Jones a’r Prifardd Tudur Dylan Jones) yn y Babell Lên. Roedd yn ornest ddifyr a chlos gydag Aberhafren yn ennill o hanner marc!
Aeth Gwobr Dysgwr y Flwyddyn 2011 i Kay Holder, sy’n fyfyrwraig yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a’r Fro, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae Kay yn dod o Benarth yn wreiddiol ac mae’n byw yn Ninas Powys erbyn hyn. Yr Eisteddfod yn 2008 yng Nghaerdydd a fagodd ei diddordeb yn y Gymraeg a diwylliant Cymru.
Dywedodd yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: "Rydym yn hynod falch o lwyddiant yr Ysgol yn yr Eisteddfod eleni. Mae ysgrifennu creadigol, sy’n cael ei addysgu ar lefel israddedig a lefel ôl-raddedig, yn gryfder a gydnabyddir yn yr Ysgol; ar yr un pryd, mae Gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn adlewyrchu’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan ein Canolfan Cymraeg i Oedolion. Yn sicr rydym wedi gosod y safon ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf a gynhelir yn lleol, ym Mro Morgannwg."
« Kay Holder Learner of the Year / Dysgwr y Flwyddyn 2011 | Main | 2011 Summer Course success and September sign up »
August 17, 2011
TrackBack
TrackBack URL for this entry:
http://www.typepad.com/services/trackback/6a00d835130fd053ef015434974534970c
Listed below are links to weblogs that reference Eisteddfod Successes - Llwyddiant yn yr Eisteddfod :
Verify your Comment
Previewing your Comment
This is only a preview. Your comment has not yet been posted.
Your comment could not be posted. Error type:
Your comment has been posted. Post another comment
As a final step before posting your comment, enter the letters and numbers you see in the image below. This prevents automated programs from posting comments.
Having trouble reading this image? View an alternate.

Comments