The Welsh for Adults Centre Cardiff and the Vale have launched a brand new club called Clwb Dysgwyr Caerdydd a’r Fro for you, the learners! This is your chance to practise your Welsh and make friends with loads of other learners whilst taking part in a range of fun activities! It doesn’t matter what your level of Welsh is, everyone’s very welcome and it’s completely free!
The club was launched at the beginning of October in the Cayo Arms and lots of learners came to enjoy a free drink and a quiz by the quiz master Adrian Price.
Since then the Scrabble club has started and also the Dysgwyr Caerdydd a’r Fro choir. It’s not too late to join them! (See below for all the details).
Also, there’s a special activity organised every month. A trip down to the bowling alley was the activity in October. A group of learners from all levels of Welsh met down in the Red dragon Centre to enjoy a game of ten pin bowling. Everyone had a great time! It was a good chance for learners to enjoy themselves and speak Welsh at the same time. We are going on a trip around the Millennium Stadium this month. Everyone’s very welcome to join us!
As this is the learners club we would like to organise activities which you would like to do with other learners and so if you have any suggestions of what you would like to do you are very welcome to e-mail Gwenllian Willis on willisg1@caerdydd.ac.uk. The person with the best suggestion will win an MP4 Player!
Look below for all of the activites which have been organised for you this month!
Saturday Courses
The first Saturday course takes place this Saturday in the Palmerston Centre in Barry. The course lasts 3 hours in the morning. Everyone's very welcome. Please see the leaflet attached for all of the information attached.
Scrabble yn Gymraeg Club
Scrabble is a game which allows you to practise your communications, reading and writing Welsh skills at the same time. There's no better way to practise all of these skills and have fun at the same time! So come and enjoy the fun every other Tuesday in the Mochyn Du. Tuesday 4 November 2008, 7 o clock, Mochyn Du.
Clwb Dysgwyr Caerdydd a'r Fro Choir
Come and join in the singing and to make brand new friends! The choir will be singing a variety of Welsh songs and carols and they will be singing in the city at Christmas time to raise money for Tenovus. Ann Wyn Jones the singer and part time tutor will be conducting. Everyone's welcome! Every Wednesday in Severn Road Centre, Canton at 7 o clock. Wednesday 5 November 2008.
Relaunch of Mochyn Du evenings with Learner of the Year 2008 - Madison Tazu
A group of learners from the Welsh for Adults Centre Cardiff and the Vale have been going to the Mochyn Du on the first Friday of every month for years. Come to the relaunch of this fun evening and meet Learner of the Year 2008 along with loads of other learners from every level! Relaunch: Friday 7 November, 7 o clock, Mochyn Du, Sophia Gardens
Activity of the Month!: A trip around the Millennium Stadium
With the international rugby games coming to Cardiff join us in a trip around the Millemmium Stadium to visit the changing rooms and and the long tunnel which leads the players to meet their opposition and the big crowd before every game. Saturday 15 November, 12pm, Meet in the WRU Shop, Gate 3, Westgate Street
Walking trip from the programme 'Weather Man Walking' on BBC Radio Wales
Come and join one of the walking trails that Derek Brockway enjoyed on his programme 'Weather Man Walking'. Walk 5.5 miles through Porthkerry Park and across Barry coast whilst chatting to other learners and Welsh speakers on your way. Sunday 16 November, 10 o clock, Meet: Porthkerry Park Cafe.
For more information please contact Gwenllian Willis on willisg1@caerdydd.ac.uk
CLWB NEWYDD I CHI’R DYSGWYR!
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a’r Fro wedi lansio clwb newydd sbon o’r enw Clwb Dysgwyr Caerdydd a’r Fro ar eich cyfer chi, y dysgwyr! Dyma’ch cyfle i ymarfer eich Cymraeg ac i wneud ffrindiau gyda llawer o ddysgwyr eraill wrth wneud amrywiaeth o weithgareddau sy’n llawn hwyl! Does dim ots beth yw lefel eich Cymraeg, mae croeso mawr i bawb ac mae am ddim!
Cafodd y clwb ei lansio ar ddechrau mis Hydref yn y Cayo Arms a daeth nifer fawr o ddysgwyr i fwynhau diod am ddim a chwis gan y cwis feistr Adrian Price.
Ers hynny mae’r clwb Scrabble wedi dechrau a hefyd côr Dysgwyr Caerdydd a’r Fro. Nid yw’n rhy hwyr i ymuno a nhw! (Gweler isod am yr holl wybodaeth).
Hefyd, mae gweithgaredd arbennig yn cael ei drefnu pob mis. Trip i lawr i’r ali fowlio oedd y gweithgaredd ym mis Hydref. Cwrddodd criw o ddysgwyr yng Nghanolfan Red Dragon i fwynhau gêm o fowlio deg. Roedd pawb wedi mwynhau mas draw! Roedd e’n siawns ardderchog i ddysgwyr mwynhau eu hunain wrth siarad Cymraeg. Rydym yn mynd ar daith o amgylch Stadiwm y Mileniwm ar gyfer y trip nesaf ac mae croeso i chi gyd ddod i fwynhau gyda ni!
Gan mai clwb y dysgwyr yw hwn dyn ni eisiau trefnu pethau hoffech chi wneud gyda dysgwyr eraill ac felly os oes gyda chi unrhyw awgrymiadau am yr hyn yr hoffech wneud mae croeso i chi e-bostio Gwenllian Willis ar willisg1@caerdydd.ac.uk. Mae’r person â’r awgrym gorau yn ennill Chwaraewr MP4!
Gwelwch isod am yr holl weithgareddau sydd wedi cael eu trefnu ar eich cyfer chi dros y mis nesaf!
Cyrsiau Sadwrn
Mae'r cwrs Sadwrn cyntaf yn dechrau ar ddydd Sadwrn yn Nghanolfan Palmerston yn y Barri. Mae'r cwrs yn para 3 awr yn y bore. Mae croeso mawr i bawb ddod! Edrychwch ar y daflen rwyf wedi atodi am ragor o fanylion.
Clwb Scrabble yn Gymraeg
Mae Scrabble yn gêm sy’n eich galluogi i ymarfer eich sgiliau cyfathrebu, darllen ac ysgrifenedig Cymraeg ar yr un pryd. Does dim ffordd gwell i ymarfer yr holl sgiliau hyn a chael hwyl ar yr un pryd! Felly dewch i ymuno â’r hwyl bob yn ail nos Fawrth yn y Mochyn Du! Nos Fawrth 4 Tachwedd 2008, 7 o’r gloch, Mochyn Du.
Côr Clwb Dysgwyr Caerdydd a'r Fro
Dewch i ymuno â’r canu ac i wneud ffrindiau newydd sbon! Bydd y côr yn canu amrywiaeth o ganeuon Cymreig a charolau a byddent yn canu yn y ddinas amser Nadolig i godi arian ar gyfer Tenovus. Bydd y gantores Ann Wyn Jones yn cyfeilio. Mae croeso mawr i bawb! Pob nos Fercher yng Nghanolfan Severn Road, Treganna am 7 o’r gloch. Nos Fercher 5 Tachwedd 2008.
Ail-lansio nosweithiau’r Mochyn Du gyda Dysgwr y Flwyddyn 2008 – Madison Tazu
Mae grwp o ddysgwyr CCiO Caerdydd a’r Fro wedi bod yn cymdeithasu yn y Mochyn Du ar nos Wener cyntaf bob mis am flynyddoedd. Dewch i ail-lansiad y nosweithiau difyr hwn a chwrdd â Dysgwr y Flwyddyn 2008 ynghyd â nifer o ddysgwyr eraill o bob lefel! Ail-lansiad: Nos Wener 7 Tachwedd, 7 yh, Y Mochyn Du, Gerddi Soffia.
Gweithgaredd y Mis!: Taith o amgylch Stadiwm y Mileniwm
Gyda’r gemau rygbi rhyngwladol yng Nghaerdydd ymunwch â ni am daith o amgylch y stadiwm i ymweld â’r ystafelloedd newid a’r twnel hir sy’n arwain y chwaraewyr i gwrdd â’u gwrthwynebwyr a’r dorf fawr cyn pob gêm. Dydd Sadwrn 15 Tachwedd, 12 yh, Cwrdd yn y Siop WRU, Giat 3, Westgate Street
Taith Gerdded o’r rhaglen ‘Weather Man Walking’ ar BBC Radio Wales
Dewch ar un o’r teithiau cerdded a wnaeth Derek Brockway yn ei raglen ‘Weather Man Walking’. Cerddwch 5.5 trwy Parc Porthkerry ac ar hyd arfordir y Barri a chwrdd â dysgwyr a Chymry Cymraeg eraill ar eich taith. Dydd Sul 16 Tachwedd, 10 o’r gloch, Cwrdd: Caffi Parc Porthkerry
Am ragor o fanylion cysylltwch â Gwenllian Willis ar willisg1@caerdydd.ac.uk neu 029 20 876 451.